
Llanhennock Lodge - Cymraeg
Mewn lleoliad tawel a gwledig ar gyrion Caerllion yn Ne Cymru, mae Llanhennock Lodge yn gartref i 34 oedolyn ag anableddau corfforol. Mae ein cartref yng nghanol golygfeydd hyfryd cefn gwlad a chyda Bannau Brycheiniog, Cymoedd Wysg ac arfordir De Cymru gerllaw, mae o hyd ddigon i’w fwynhau. Mae Casnewydd yn daith fer mewn car.
Dod o hyd i ni
- Organisation
- Llanhennock Lodge
- Street address
-
Llanhenwg ger Caerllion
Casnewydd - Post town
- Gwent
- Postal code
- NP18 1LT
- Phone number
- Service manager:
-
Sarah Roberts
Datrysiadau byw
- Cartref gofal a nyrsio ar gyfer 34 oedolyn
English version
Mae pawb yn gwybod nad oes unman tebyg i gartref
Dyna pam mae pob cartref Leonard Cheshire yn unigryw ac yn rhoi’r cymorth sy’n addas i’r bobl sy’n byw yno. Mae cymorth wedi'i bersonoleiddio yn helpu i sicrhau y gall pawb fyw mor annibynnol ag y mynnent.
Mewn lleoliad tawel a gwledig ar gyrion Caerllion yn Ne Cymru, mae Llanhennock Lodge yn gartref i 34 oedolyn ag anableddau corfforol. Mae ein cartref yng nghanol golygfeydd hyfryd cefn gwlad a chyda Bannau Brycheiniog, Cymoedd Wysg ac arfordir De Cymru gerllaw, mae o hyd ddigon i’w fwynhau. Mae Casnewydd yn daith fer mewn car.
Ai dyma’r lle i chi?
Mae’n le diogel a chyfeillgar i fyw ynddo, gyda gofal a nyrsio o safon uchel. Mae’r tîm yn ymrwymedig ac yn brofiadol, yn arbennig o ran cefnogi pobl â pharlys yr ymennydd, epilepsi ac anafiadau i’r ymennydd. Bydd y staff yn sicrhau eu bod yn deall ac yn bodloni eich anghenion - a hynny oll gyda’r preifatrwydd a’r parch uchaf. Rydym yn cynnig ffisiotherapi hefyd ac mae gennym bwll hydro a chyfleusterau therapi cerdd a chelf i gefnogi eich llesiant.
Bydd y bobl fyddwch yn cwrdd â nhw, y pethau fyddwch yn eu gwneud…
Drwy fyw yma, byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn annibynnol, yn iach ac yn actif. Mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ardderchog yn cynnal gweithgareddau unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys therapi symud a garddio. Rydym hefyd yn trefnu teithiau i fannau lleol o ddiddordeb. Felly beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, p’un a yw’n cadw’n heini neu fod yn greadigol, mae bob amser rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo.
…yn eich tywys i’r lle rydych am fynd
Beth bynnag yw eich nodau yn y tymor byr neu’r tymor hir, rydym yma i’ch cefnogi a gwneud yn siŵr bod eich siwrne mor hwyl a llwyddiannus â phosibl.
Cyfleusterau a gwasanaethau
- Ffisiotherapi
- Meddyg Teulu eich hun os oes ei angen
- Dodrefn eich hun os oes eu hangen
- Pwll hydrotherapi
- Cyfleusterau therapi celf a cherdd
- Anifeiliaid anwes ar gais
- Bws mini neu drafnidiaeth arall
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- Llety llawr gwaelod yn unig
- Gardd wedi’i thirlunio a phatio
- Cegin fach i breswylwyr
- Pwynt ffôn yn eich ystafell eich hun/ffôn symudol
- Pwynt teledu yn eich ystafell eich hun
- Mynediad i’r rhyngrwyd
Speak to us about referrals
If you're interested in learning more about Llanhennock Lodge you can email us at:
referrals@leonardcheshire.org.