
My Voice My Choice - Cymru
Beth yw My Voice My Choice?
Mae ein rhaglen My Voice My Choice wedi’i chynllunio i ddatblygu’ch sgiliau ymgyrchu ac eiriolaeth er mwyn i chi allu gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol. Rydym yn cynnal gweithdai am ddim ledled Cymru.
Sut mae'n gweithio?
Rydym yn cynnal tri gweithdy ym mhob un o’n 12 lleoliad yng Nghymru ar gyfer pobl anabl a’u cynghreiriaid. Bydd pob sesiwn yn ymdrin ag ystod eang o faterion megis troseddau casineb, cynhwysiant cymdeithasol, iechyd a lles - beth bynnag yw'r materion, byddwn yn mynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd.
Sut gallaf gymryd rhan?
Os hoffech chi gymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r ffurflen isod neu e-bostio myvoicemychoiceenquiries@leonardcheshire.org.
Wedi hynny, cewch gyfle i rwydweithio gyda gwleidyddion ac ymgyrchwyr lleol yn ystod ein digwyddiad dathlu.
Byddwch hefyd yn gallu parhau i gael effaith ymhell ar ôl i’r rhaglen ddod i ben. Byddwn yn eich helpu chi ac ymgyrchwyr anabledd angerddol eraill i ffurfio panel dinasyddion lle gallwch barhau i fod yn llais ar gyfer pobl anabl yn eich cymuned.
Pa bynciau ydych chi'n ymdrin â nhw?
Rydym yn tueddu i gynnal gweithdai sy'n ymdrin â 4 pwnc er y gall hyn newid. Fel arfer dim ond un siaradwr a dau weithgaredd sydd gennym i gyd wedi'u cynllunio i gasglu gwybodaeth am faterion lleol.
- Hygyrchedd - Gall y gweithdai hyn ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus, materion mynediad mewn gwahanol leoliadau, a hygyrchedd digidol. Rydym hefyd wedi trafod toiledau anabl nad sydd yn hygyrch a cheir wedi'u parcio ar balmentydd mewn sesiynau blaenorol. Pan fo’n bosibl, rydym yn hoffi cynnwys Trafnidiaeth Cymru.
- Iechyd meddwl a lles - Ar gyfer y pwnc hwn, mae gennym naill ai siaradwr â chyflwr iechyd meddwl, neu mae gennym elusen iechyd meddwl sy’n dod i ddweud wrthym am y cymorth sydd ar gael. Mae'r gweithdai hyn yn agored iawn i drafodaeth.
- Costau byw - Mae'r gweithdai hyn yn tueddu i fod yn fyrrach ac ar-lein. Yn y gorffennol rydym wedi gofyn i Gyngor ar Bopeth ddod i mewn i drafod pa gymorth sydd ar gael i bobl anabl.
- Cynhwysiant cymdeithasol a digidol - Fel arfer byddwn yn gofyn am siaradwyr sy'n rhedeg clybiau cynhwysol ar gyfer y sesiynau hyn. Bydd trafodaeth am yr hyn y mae pobl ei eisiau yn eu hardaloedd ac unrhyw brofiadau negyddol y mae cyfranogwyr wedi'u profi.
Fel person anabl, roedd y sesiynau a gynhelir gan Leonard Cheshire yn hanfodol. Mae helpu i sicrhau bod person anabl yn gwybod sut a ble i adrodd am drosedd gasineb a phwysigrwydd ffitrwydd yn hanfodol ac rwy’n cymeradwyo Leonard Cheshire am y gwaith y maent yn ei wneud.
Lawrlwythwch ein pecyn cymorth
Nod y pecyn cymorth hwn yw bod yn adnodd 'byw' ymarferol. Bydd yn cefnogi pobl i greu ffurf gynaliadwy, hirdymor o gynrychiolaeth anabledd ystyrlon yn eu hardal.
Mae’n rhoi arweiniad cam wrth gam ar:
- Sut i sefydlu panel dinasyddion.
- Recriwtio cyfranogwyr.
- Ethol cadeirydd, rhedeg ymgyrch.
- A llawer o elfennau hanfodol eraill.

Manylion y gweithdy
Lleoliadau
Dyma lle gallwch chi gymryd rhan:
- Aberystwyth a Machynlleth
- Casnewydd a Chaerffili
- Y Trallwng, Llandrindod a'r Drenewydd
- Sir Benfro
- Aberhonddu a Merthyr
- Pontypridd (Caerffili) a Rhondda Cynon Taf
- Ceredigion
- Blaenau Gwent, Glyn Ebwy a Thorfaen
Gweithdai sydd ar y gweill
Dyma ein gweithdai sydd i ddod:
- 17 Mawrth - Aberystwyth a Machynlleth - Hygyrchedd
- 23 Mawrth - Casnewydd a Chaerffili - Costau byw
- 31 Mawrth - Aberystwyth a Machynlleth - Costau byw
- 25 Ebrill - Aberystwyth a Machynlleth - Iechyd meddwl
Gall dyddiadau a phynciau newid yn ddibynnol ar ddiddordeb.