
Danybryn - Cymraeg
Ym mhentref tawel Radur, mae Danybryn yn gartref i 30 oedolyn ag anableddau corfforol. Mae ein cartref yng nghanol gerddi helaeth wedi’u tirlunio ac o fewn taith gerdded fer o siopau, caffis, eglwysi, y llyfrgell leol a salon harddwch. Rydym tua phum milltir o ganol dinas Caerdydd.
Dod o hyd i ni
- Organisation
- Danybryn
- Street address
-
Heol Isaf
- Post town
- Radur
- Postal code
- CF15 8AJ
- Phone number
- Email address
- Email Danybryn - Cymraeg
- Service manager:
-
Anita Upham
Datrysiadau byw
- Cartref gofal a nyrsio ar gyfer 30 oedolyn
English version
Mae pawb yn gwybod nad oes unman tebyg i gartref
Dyna pam mae pob cartref Leonard Cheshire yn unigryw ac yn rhoi’r cymorth sy’n addas i’r bobl sy’n byw yno. Mae cymorth wedi'i bersonoleiddio yn helpu i sicrhau y gall pawb fyw mor annibynnol ag y mynnent.
Ym mhentref tawel Radur, mae Danybryn yn gartref i 30 oedolyn ag anableddau corfforol. Mae ein cartref yng nghanol gerddi helaeth wedi’u tirlunio ac o fewn taith gerdded fer o siopau, caffis, eglwysi, y llyfrgell leol a salon harddwch. Rydym tua phum milltir o ganol dinas Caerdydd.
Ai dyma’r lle i chi?
Mae’n le diogel a chyfeillgar i fyw ynddo, gyda gofal a nyrsio o safon uchel. Mae’r tîm yn ymrwymedig ac yn brofiadol a bydd yn sicrhau ei fod yn deall ac yn bodloni eich anghenion - a hynny oll gyda’r preifatrwydd a’r parch uchaf. Mae ffisiotherapi ar gael hefyd ac mae gennym dechnoleg gynorthwyol.
Bydd y bobl fyddwch yn cwrdd â nhw, y pethau fyddwch yn eu gwneud…
Drwy fyw yma, byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn annibynnol, yn iach ac yn actif. Mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ardderchog yn cynnal gweithgareddau unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys dosbarthiadau llythrennedd a bingo. Felly beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, p’un a yw’n cadw’n heini neu fod yn greadigol, mae bob amser rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo.
…yn eich tywys i’r lle rydych am fynd
Beth bynnag yw eich nodau yn y tymor byr neu'r tymor hir, rydym yma i’ch cefnogi a gwneud yn siŵr bod eich siwrne mor hwyl a llwyddiannus â phosibl.
Cyfleusterau a gwasanaethau
- Ffisiotherapi
- Meddyg Teulu eich hun os oes ei angen
- Dodrefn eich hun os oes eu hangen
- Ni chaniateir ysmygu
- Agos at siopau lleol
- Agos at drafnidiaeth gyhoeddus
- Bws mini neu drafnidiaeth arall
- Lifft
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- Technoleg gynorthwyol
- Gerddi helaeth i breswylwyr
- Cegin fach i breswylwyr
- Pwynt ffôn yn eich ystafell eich hun/ffôn symudol
- Pwynt teledu yn eich ystafell eich hun
- Mynediad i’r rhyngrwyd i breswylwyr
Speak to us about referrals
If you're interested in learning more about Danybryn you can email us at
referrals@leonardcheshire.org.